Book Launch Book Launch Book Launch
Saturday 6 November at Cwtsh Stow HIll Newport

 

Hanes yn y Tir

 by Elin Jones

 

 

Yn y gyfrol hon, mae'r hanesydd Elin Jones yn dangos bod olion gorffennol Cymru o’n cwmpas heddiw. Mae’n mynd â ni ar daith weledol drwy dros 5,000 o flynyddoedd o hanes ac o gwmpas Cymru gyfan. Llyfr hanfodol ar hanes Cymru i bob ysgol, disgybl ac athro. Ar gael yn Saesneg: History Grounded (9781845278328).

 

Bywgraffiad Awdur:

Bu Elin Jones yn dysgu yn ysgolion uwchradd Preseli, Rhydfelen a Chwm Rhymni cyn cael ei phenodi’n swyddog addysg yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn y swyddi hyn i gyd roedd disgwyl iddi gynefino â phob cyfnod o hanes Cymru, a chafodd gyfle i gyd-weithio gydag arbenigwyr ac i baratoi adnoddau ar gyfer dysgwyr o bob oedran a gallu.

 

Ym 1996 dechreuodd wneud gwaith ymgynghorol gydag Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, gyda chyfrifoldeb dros reoleiddio’r cymwysterau hanes, datblygu’r cwricwlwm hanes a’r dulliau o’i asesu, a chomisynu adnoddau dysgu hanes hefyd. Bu’n cadeirio’r tasglu oedd yn gyfrifol am baratoi’r adroddiad i’r Gweinidog Addysg ar Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru yn 2013. Mae’n westai poblogaidd wrth drafod straeon a chymeriadau o hanes Cymru ar raglenni Radio Cymru.

 

Gwybodaeth Bellach:

Oes, mae darnau o hanes mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd – ond maen nhw yma hefyd, mewn hen luniau, enwau lleoedd, ar fapiau ac mewn olion hen adeiladau ar lechwedd mynydd neu ar lan y môr. Bydd y llyfr hwn yn eich helpu i wybod ac i ddeall yr hanes, lle bynnag ydych chi yng Nghymru. Bydd yn sbardun ichi chwilio am ragor o ddarnau o’n gorffennol.

 

Pwy oedd y bobl gyntaf oll i fyw yng Nghymru? Pam fod Glyndŵr mor bwysig i’r Cymry? Beth oedd rhan Cymru yn y fasnach gaethweision? Pa ddylanwad gafodd y môr ar ein hanes? Dewch i chwilio am rai o’r atebion!

 

• Hanes yn y Tir

• ISBN: 9781845278311

• Elin Jones

• Cyhoeddi: Medi 2021

• Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3

• Fformat: Clawr Caled, 224x148 mm, 222 tudalen

 

Reserve a place at the Book Launch here

https://www.newportrising.co.uk/events/book-launch-history-grounded-hanes-yn-y-tir-by-elin-jones

 

 

Magazine Archives Links Forum Home